Ein profiadau a’n meddyliau am y ffyrdd o gynyddu cynhyrchu incwm

Ein cylch gwaith fel elusen yw darparu gwasanaeth, sydd fel nifer o wasanaethau cyhoeddus ddim o natur a fyddai’n ennill adenillion ar fuddsoddiad gan gwmni masnachol. Mae tipyn o’n gwaith yn digwydd o fewn cymunedau lleol ac ysgolion ble na fyddai dychweliad ariannol yn realistig.

Gyda thîm o staff o 4, mae’n rhaid i ni dreulio ein hamser yn ddoeth, gan sicrhau ein bod yn cyflawni ein pwrpas a chreu gwaith o ansawdd uchel. Heb rôl arbenigol yn y tîm staff, mae’r amser a roddir i edrych am nawdd masnachol, chwilio a cheisio am nawdd oddi wrth Ymddiriedolaethau a Sefydliadau a rhoddion dyngarol oddi wrth unigolion, yn cyfartalu i oddeutu 15% o un aelod staff llawn amser. Mae llwyddo cael incwm yn llwyddiannus oddi wrth un o’r ardaloedd yma yn cymryd amser i ymchwilio cydweddiad posibl, ymroi a meithrin perthynas, ac fel y cyfryw rhaid i’r dychweliad ar yr amser a roddir gennym gael ei bwyso’n ofalus.

Er mwyn cynyddu incwm enilledig drwy werthiant tocynnau, mae yna nifer o ffactorau sy’n cyfrannu. O brofiad personol, wedi bod yn rhaglennwr lleoliad, mae lleoliadau yn parhau i dalu ffioedd ar lefel fel yr oeddent 10 mlynedd yn ôl i’r cwmnïau sy’n cynhyrchu’r gwaith, megis Theatr na nÓg. Gyda gostyngiadau a cholled mewn nifer o achosion o ariannu Awdurdod Lleol, mae’r lleoliadau yn gweithio i gyllidebau rhaglenni tynn. Mae ffioedd gwarantedig yn dod yn gynyddol fwy prin gyda lleoliadau yn dewis lleihau’r risg drwy gynnig gwerthiannau tocyn rhannu gyda’r cwmni, yn golygu bod y cwmni cynhyrchu a’r lleoliad yn cymryd risg cyfartal. Golyga hyn i ni, ein bod yn gwbl ddibynnol ar lwyddiant marchnata’r lleoliad ar gyfer ein sioe a hwy yn gwerthu tocynnau ar ein rhan.

Mae gwerth enwol tocyn yn amodol ar TAW ac yna’n cael ei rannu gyda’r lleoliad letyol yn golygu byddai chwyddiant mewn gwerthiannau tocynnau gan £1 yn gweld gwir chwyddiant o oddeutu 49c wedi breindaliadau i ni. 

Mae angen i docynnau cael eu prisio ar lefel sy’n addas ar gyfer y gymuned lle caiff y cynhyrchiad ei berfformio fel na fydd cost yn dod yn waharddol a’r celfyddydau ar gyfer yr elit yn unig.

Caiff llwyddiant pob economi lleol effaith anferthol ar faint gall aelodau o’r gynulleidfa eu fforddio a gall pris lleoliadau newid.

Ein Hargymhellion

Yn yr hir -dymor, byddai angen adolygu rhwydwaith mewnol sefydliadau celfyddydau bychain i edrych ar y posibilrwydd o greu a chefnogi swyddi arbenigol newydd yn ogystal ag argaeledd o godwyr arian llwyddiannus yn y wlad i lenwi unrhyw swyddi newydd. Byddai o fudd i gwmnïau fel y ni, pe fyddai CCC yn gallu, fesul ei rhaglen Wrthsefyll, ddarparu adnodd rhanbarthol o’r natur yma yn debyg i gwmni Portffolio Cenedlaethol.

Byddai dadansoddiad o bob sefydliad portffolio gan arbenigwr gyda llwyddiant blaenorol o weithio gyda sefydliadau celfyddydol i gynyddu incwm yn cael ei groesawu.

Byddai dull cysylltiedig o fuddsoddi mewn datblygiad cynulleidfa yn cefnogi lleoliadau, yn gweld ymwelwyr yn mynychu eu lleoliad lleol yn fwy a gyda chefnogaeth buddsoddi trafnidiaeth, byddai cymunedau’n teithio i leoliadau eraill sydd ar y map fod yn lleol ond mewn gwirionedd maent yn amhosib i’w cael os yn ddibynnol ar gludiant cyhoeddus.

O ganlyniad, byddai lleoliadau yn generadu mwy o incwm nid yn unig ar werthiant tocynnau ond ar wariant ategol ac o ganlyniad yn cael mwy o hyblygrwydd yn y ffioedd sydd ar gael i dalu’r cwmnïau sy’n cynhyrchu’r gwaith.

Nawdd Portffolio Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau

Mae datblygiad o sioe newydd fel arfer yn cymryd rhwng 2-5 mlynedd o’r syniad cychwynnol, datblygiad o’r sgript, archebu lleoliadau, (fel arfer 1 mlynedd o flaen llaw) i greu’r cynhyrchiad terfynol. Mae cwmnïau yng Nghymru sy’n dibynnu ar nawdd CCC yn gweithio mewn ffordd ansicr gyda dyfodol ansicr oherwydd caiff grantiau ond eu rhoi ar sail flynyddol. Tra ein bod yn cynllunio ymlaen ar gyfer y 3-4 blynedd nesaf, nid ydym byth yn gwybod a fyddwn yn llwyddiannus yn parhau i dderbyn nawdd oddi wrth ein hariannwr pennaf hyd nes yr Ionawr ar gyfer gweithgareddau sydd i’w cychwyn yn yr Ebrill.

Ein Hargymhellion

Gydag ymroddiad i nawdd tymor hirach dros gyfnod o 3 blynedd gyda Sefydliadau Portffolio Cenedlaethol fel Arts Council England, byddai sefydliadau’n cynyddu sefydlogrwydd, sicrwydd a’r gallu i gynllunio’n bellach ymlaen. Gydag ariannu wedi ei ddiogelu am dymor hirach, byddai hyn yn caniatáu i hyn i gael ei ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer ceisiadau am Ymddiriedolaethau a Sefydliadau ble caiff ceisiadau fel arfer eu cyflwynod6-12 mis cyn bod eu hangen.

Fe allai hefyd gynnig mwy o sicrwydd petai fuddsoddwr posib yn gallu cael eu darganfod.

Dull arloesol i godi nawdd di-gyhoeddus

Mae Theatr na nÓg wedi profi o lygad y ffynnon yr heriau a ddaw wrth amryfalu ein model busnes a chynhyrchu gwaith masnachol.

Wedi teithio gyda’n sioe gerdd newydd ‘TOM’ am flynyddoedd cynnar Tom Jones ym 2014, fe wnaeth y cwmni ail-gynllunio’r sioe i fod yn gynhyrchiad raddfa fawr i deithio’r DU yn 2016 gyda’r bwriad o eneradu incwm ychwanegol i gefnogi’r cwmni ac i fynd â’n gwaith i gynulleidfa ehangach.

Fe wnaeth ‘TOM The Musical’ deithio i 12 lleoliad, chwaraewyd 83 o berfformiadau i dros 41,000 o bobl a grosio dros £1 miliwn yn y swyddfa docynnau ond ni wnaeth greu elw. Rydym wir yn credu bod posibiliad o’r model yma’n ennill yr hyn a wnaethom fwriadu ei wneud o’n darganfyddiadau, a’r pethau wnaethom ei ddysgu ar ein taith gyntaf, i fyd theatr fasnachol. Mae’n farchnad hynod gystadleuol sydd â model busnes gwahanol iawn i’r hyn o gwmni cymorthdaledig fel yr ydym ni. Mae’n fodel risg uchel ac ond yn gweithio gyda buddsoddiad cyfalaf arwyddocaol.

Roedd y daith ond yn bosib gyda buddsoddiad o gronfeydd cyfalaf o £300,000, cyfuniad o fenthyciad banc a buddsoddiad oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. Yr hyn wnaethom ei ddarganfod yn ystod y broses o chwilio buddsoddiad oedd nad oedd buddsoddwyr o Gymru  yn gyfarwydd gydag arferion o gynyrchiadau theatraidd. Mae’r anhawster yma o gydweithio’n agos gyda’r sector preifat yn gymhleth oherwydd nad oes cwmniau DU enfawr gyda’u pencadlys yng Nghymru.

Tra y byddem wrth ein bodd yn teithio gyda sioe o’r raddfa yma eto, byddai’r her o ddod o hyd i fuddsoddiad cyfalaf eto yn waharddol a’r swm o amser a fuddsoddwyd yn hyn a’r cread o’r cynhyrchiad yn naturiol yn cymryd blaenoriaeth dros ein gwaith arall gan nad oes tîm digon mawr i redeg y ddau ar y cyd. Mae hyn yna’n arwain at y cwestiwn pa un ai a ydym yn gallu cyflawni ein pwrpas fel elusen a chyflawni llwyddiant masnachol.

Ein Hargymhellion

Gallai Llywodraeth Cymru, drwy bortffolio Datblygiad Economaidd Ken Skates, edrych ar ddatblygu grŵp bach o fuddsoddwyr cychwynnol ac annog hwy i gymryd rhan drwy gynnig cymhelliannau dros gyfnod o dair blynedd.

Y casgliad

Nid ydym yn dymuno bod yn negyddol am y posibiliadau o leihau dibyniaeth ar y pwrs cyhoeddus ond fel dengys ein hymateb ar raddfa ein gweithrediad a gyda’n cylch gwaith (Fel y rhoddir gan CCC) mae’n anodd canfod sut y gallwn innau’n unig gynllunio, datblygu a chyflwyno lleihad o’n harian a ddibynnwn arno.

Byddai ein tîm o staff a’n bwrdd yn hapus i weithio’n agos ymhellach yn y ddadl wrth iddi symud ymlaen.